P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The National Organisation for Children's Mental Health, ar ôl casglu 91 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Tasglu Cenedlaethol i ymchwilio i ba ffactorau diwylliannol, ffactorau cymdeithasol a ffactorau gwleidyddol a allai fod yn cyfrannu at nifer y plant yng Nghymru sy’n dioddef iechyd meddwl gwael; a bod y Tasglu Cenedlaethol hwn:
1) Yn cynnwys yn ei aelodaeth: plant; cynrychiolwyr o sefydliadau
sy’n gweithio gyda phlant; cynrychiolwyr o bob plaid
wleidyddol a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru;
academyddion sy’n ymwneud ag ymchwilio i bolisi cymdeithasol,
gwyddoniaeth wleidyddol, diwylliant, cymdeithas ac
economeg;
2) Yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Plant Cymru sydd yn y swydd
pan grëir y Tasglu hwn, ac y dylai aros yn Gadeirydd y Tasglu
am ei hyd, pe bai’n cytuno i wneud hynny (waeth a yw’n
parhau’n Gomisiynydd Plant Cymru am oes y Tasglu ai peidio -
ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol);
3)
 chyfrifoldeb am lunio adroddiad yn seiliedig ar ei ymchwiliadau sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ei ganfyddiadau; ac y
4) Dylai Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’r Tasglu Cenedlaethol hwn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a phreswylwyr Cymru (gan gynnwys plant), edrych yn fanwl ar argymhellion yr adroddiad.
Gwybodaeth ychwanegol
Menter gymdeithasol sydd newydd ei sefydlu yw’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Cyf. Ein hamcan yw cefnogi datblygiad diwylliant cenedlaethol sy’n galluogi plant i gynnal iechyd meddwl ardderchog, drwy helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda a / neu ar gyfer plant, i greu’r amgylchedd gorau lle gall iechyd meddwl pob plentyn ffynnu.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Bro Morgannwg
· Canol De Cymru